Newyddlen Canolbwynt Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant / Research, Innovation and Improvement Coordination Hub newsletter


Saesneg isod / English below

Newyddlen Canolbwynt Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant

Mai 2022

I gael y newyddion diweddaraf ar ymchwil, arloesi a gwelliant dilynwch ni ar Twitter

Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ar gael nawr!

Mae’r asesiad diweddaraf o anghenion gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru nawr yn fyw ar ein gwefan. Mae’n cynnwys data yn ymwneud â pha mor dda y mae gwasanaethau yn bodloni anghenion ar hyn o bryd a thueddiadau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys llawer o adborth gan bobl sy’n darparu ac yn defnyddio gwasanaethau ynglŷn â beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella.

Rydym yn gweithio ar gynllun i sicrhau fod yr asesiad yn gyfredol ac i wella’r wybodaeth a gaiff ei darparu, a fydd yn cynnwys ychwanegu mwy o ddata lleol a diweddaru gyda’r canfyddiadau o Gyfrifiad 2021.

Fel rhan o’r asesiad fe luniodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fap o’r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer rhestr o wasanaethau ataliol a gaiff eu defnyddio yn aml ar draws y rhanbarth. Roedd rhai o’r canlyniadau’n annisgwyl. Ychydig o dystiolaeth oedd fod llawer o weithgareddau sy’n teimlo fel y dylent weithio yn gwneud hynny, neu nid oedd tystiolaeth o gwbl i ddangos hynny. Ewch i ddarganfod mwy: Beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio mewn gofal iechyd a chymdeithasol ataliol.

Ewch i weld yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ar wefan y gydweithredfa ranbarthol.

Hac Gofal Cymdeithasol

Rydym yn llawn cyffro o fod yn lansio’r Hac Gofal Cymdeithasol Cymreig cyntaf erioed!

Ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac a oes gennych chi her yn eich gwaith yr hoffech i rai o’r arloeswyr gorau eich helpu i’w datrys?

Mae’r model wedi ei seilio ar Hac Iechyd Cymru, marathon arloesedd dau ddiwrnod sy’n paru arbenigwyr y diwydiant, technolegwyr digidol a chwmnïau data gyda staff y GIG i helpu i ddatrys eu problemau. Ewch i ddarganfod mwy: Stori Hac Iechyd Cymru.

Ewch i blatfform Simply Do i ddysgu mwy a chyflwyno eich her!

Canolfan Ragoriaeth SBRI

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn chwilio am heriau i’w hariannu o bosibl y flwyddyn nesaf (2022/3).A oes gennych chi her y gellir ei datrys drwy weithio gyda diwydiant ac academwyr i ddatblygu datrysiad arloesol?Os felly fe hoffai’r tîm glywed gennych chi, gallwch anfon e-bost atynt i’r cyfeiriad hwn SBRI.COE@wales.nhs.uk. Mae ganddynt ddiddordeb mewn unrhyw heriau sydd gennych chi, ond yn benodol yr heriau eleni yn ymwneud â:

  • Pharhau i leihau’r effaith mae COVID 19 wedi ei gael ar y system iechyd yn gyffredinol.
  • Iechyd Meddwl
  • Canser
  • Amcanion tymor hirach fel iechyd ataliol
  • Genomeg
  • Diagnosis cynnar
  • Rhoi i gleifion y wybodaeth sydd ei hangen arnynt

I gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud cysylltwch â ni neu fe allwch edrych ar y wefan: Canolfan Ragoriaeth SBRI

Digwyddiadau

Cynhadledd Genedlaethol Gwelliant Cymru 10 i 11 Mai 2022

Cryfderau a heriau gwasanaethau ac ymyriadau ar-lein i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Gweminar gyda Dr Rhiannon Evans, Lorna Stabler a Rachael Vaughan (Prifysgol Caerdydd). 17 Mai, 11am i 12 (hanner dydd).

Cylch Trafod Cleifion wrth y Llyw 20 Mai 2022

Cyhoeddiadau newydd

Gwasanaethau cymdeithasol a chyfraddau gofal plant yng Nghymru: Arolwg o’r sector (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a CASCADE)

Arolwg rhaglen Gwella Gofal Oedolion Gyda’n Gilydd (IMPACT) o bobl a oedd yn ymwneud â gofal cymdeithasol oedolion.

Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru 2021

Disgwyliadau a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Gwerthusiad cenedlaethol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.

Research, Innovation and Improvement Coordination Hub newsletter

May 2022

For the latest research, innovation and improvement news, follow us on Twitter

Population Needs Assessment available now!

The latest assessment of care and support needs in North Wales is now live on our website. It includes data about how well services are meeting needs at the moment and future trends. It also includes lots of feedback from people who provide and use services about what’s working well and what needs to be improved.

We’re working on a plan to keep the assessment up to date and to improve the information provided, which will include adding more local data and updating with the findings from the 2021 Census.

As part of the assessment Public Health Wales produced a map of the evidence available for a list of preventative services commonly used across the region. Some of the results were surprising. Lots of activities that feel like they should work turned out to have little or no evidence that they do. Find out more: What works and what doesn’t in preventative health and social care.

View the Population Needs Assessment on the regional collaboration website.

Social Care Hack

We’re excited to launch the first-ever Welsh Social Care Hack!

Do you work in social care and have a work challenge you’d like some of the best innovators to help you solve?

The model is based on the Welsh Health Hack, a two-day innovation marathon which pairs industry experts, digital technologists and data companies with NHS staff to help solve their problems. Find out more: The story of the Welsh Health Hack.

Head to the Simply Do platform to learn more and submit your challenge!

SBRI Centre of Excellence

The SBRI Centre of Excellence is looking for challenges to potentially fund next year (2022/3).Do you have a challenge that could be resolved by working with industry and academia to develop an innovative solution? If so the team would love to hear from you, you can email them at SBRI.COE@wales.nhs.uk. They are interested in any challenges you have but in particular this year challenges around:

To learn more about what we do please get in touch or you can view the website: SBRI Centre of Excellence

Events

Improvement Cymru National Conference 10 to 11 May 2022

The strengths and challenges of online services and interventions to support the mental health and wellbeing of care-experienced children and young people. Webinar with Dr Rhiannon Evans, Lorna Stabler and Rachael Vaughan (Cardiff University). 17 May, 11am to 12 noon.

Patient Powered Safety Symposium 20 May 2022

New publications

Children’s social services and care rates in Wales: A survey of the sector (Wales Centre for Public Policy and CASCADE)

Improving Adult Care Together (IMPACT) programme survey of people involved in adult social care.

Health Technology Wales 2021 Annual Report

Expectations and experience of service users and carers. National evaluation of the Social Services and Well-being Wales Act.

Hello, we're the North Wales Collaborative!

The North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative includes the six local authorities in North Wales, Betsi Cadwaladr University Health Board and other partners. The aim is to improve services, make the most of the resources available, reduce duplication and make services more consistent across North Wales.

Read more from Hello, we're the North Wales Collaborative!

Saesneg isod / English below Newyddlen yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Mai 2024 Tanysgrifiwch i'n Newyddlen. I gael y newyddion diweddaraf ar ymchwil, arloesi a gwelliant, Dilynwch ni ar Twitter. Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad Roedd cyfarfod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant ym mis Chwefror yn canolbwyntio ar sut i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol. Archwiliodd y bwrdd gwestiynau ynghylch sut y gallent weithio'n well gyda'i...

Saesneg isod / English below Newyddlen yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Ebrill 2024 Tanysgrifiwch i’n Newyddlen. I gael y newyddion diweddaraf ar ymchwil, arloesi a gwelliant, dilynwch ni ar Twitter. Digwyddiad Dathlu Dementia Trefnodd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru ddigwyddiad i arddangos a dathlu rhywfaint o’r gwaith da sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â dementia ar draws Gogledd Cymru. Gallwch ddarllen mwy am ein Digwyddiad Dathlu Dementia ar ein gwefan. Rhaglenni Dwys i...

Saesneg isod / English below Newyddlen yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Ionawr 2024 Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr. Am y newyddion ymchwil, arloesi a gwella diweddaraf, dilynwch ni ar Twitter. Cynllun Cydnabod ac Achredu Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Ddementia Gogledd Cymru Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad ein Cynllun Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Ddementia Gogledd Cymru ar 1 Ionawr 2024. Datblygwyd Cynllun Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Ddementia Gogledd...